PWY YDYM NI
Byw cymunedol yng nghalon Cymru
Cydweithfa tai yw Bodfrigan sydd wedi ei lleoli y tu allan i Tre'r Ddol, Ceredigion. Mae Bodfrigan yn bodoli i ddarparu tai sy'n eiddo i'r gymuned, sy'n ddiogel, amrywiol yn gymdeithasol ac yn gynaliadwy yn ecolegol. Rydym wedi troi cyn cyfrinfa hela, a oedd cynt yn eiddo preifat fel rhan o Ystâd helaeth Gogerddan, a'i thrawsnewid o blas a oedd yn cael ei wasanaethu gan y gymuned leol i gymuned sydd yn cael ei wasanaethu gan y plas. Mae gan y gydweithfa bedwar annedd ar wahân gyda 2 - 4 ystafell wely yr un yn ogystal â 3.5 erw o dir cymunedol, lleoedd cymunedol yn yr adeilad a llety cymunedol i westeion. Rydym yn gweld cwmnïau cydweithredol fel un ffordd o ddychmygu bywyd y tu hwnt i gyfalafiaeth, ac rydym wedi ymrwymo i ffyrdd mwy cynaliadwy a chynhwysol o fyw. Fe wnaethon ni ffurfio ym mis Hydref 2019.
“There is no thing as a single-issue struggle because we do not live single-issue lives.”
Audre Lorde
BYW YN BODFRIGAN
Beth sy'n rhan o fywyd cymunedol?
Nod Bodfrigan yw i bobl a theuluoedd ffynnu wrth hefyd gofalu am ein hamgylchedd a'n cymuned. Mae byw fel cymuned yn cymryd gwaith ac ymrwymiad i weledigaeth sy'n cael ei rhannu gan bawb, felly dyma ychydig bach am yr hyn sydd ei angen




CYSYLLTWCH Â CHOPERATIVE TAI BODFRIGAN
Lodge Park, Tre'r ddol, Ceredigion, SY20 8PL
07876563657